Luke 7:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deuth ofn arnynt oll, ac y rhoddesont ’ogoniant y Dduw, can ddywedyd, E gyfodes Prophwyt mawr yn ein cyfrwng, a’ Duw a ’ovwyawdd ei bopul.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac ofn a gymmerth afael ar bawb, a gogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â’i bobl.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A syrthiodd ofn ar bawb, a gogoneddent Dduw, gan ddywedyd, “Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith,” ac, “Ymwelodd Duw â’i bobl.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith; ac, Ymwelodd Duw â'i bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pawb wedi eu syfrdanu'n llwyr, a dyma nhw'n dechrau moli Duw. “Mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith ni!” medden nhw. “Mae Duw wedi dod aton ni i helpu ei bobl.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cydiodd ofn ym mhawb a dech-reusant ogoneddu Duw, gan ddweud, "Y mae proffwyd mawr wedi codi yn ein plith", ac, "Y mae Duw wedi ymweld 'i bobl."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac ofn a'u meddianodd oll, a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd Mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Duw a ymwelodd â'i Bobl.