Luke 7:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ discipulon Ioan a vanegesont iddaw am yr oll pethae hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wrth Ioan y mynegodd ei ddisgyblion am yr holl bethau hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mynegodd ei ddisgyblion i Ioan hyn oll.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i ddisgyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd disgyblion Ioan Fedyddiwr wedi mynd i ddweud wrtho am bopeth roedd Iesu'n ei wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoes disgyblion Ioan adroddiad iddo ynglu375?n hyn oll.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'i Ddysgyblion a fynegasant i Ioan yr holl bethau hyn. Ac Ioan, wedi galw ato rhyw ddau o'i Ddysgyblion,