Luke 7:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwas ryw Gann‐wriat oedd yn glaf ac ar varw, yr hwn oedd annwyl gantaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwas rhyw ganwriad, yn ddrwg ei hwyl, oedd ym mron marw, yr hwn oedd mewn anrhydedd ganddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd gwas i ryw ganwriad yn wael ar fin marw, un oedd werthfawr ganddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gwas i swyddog milwrol Rhufeinig yn sâl ac ar fin marw. Roedd gan ei feistr feddwl uchel iawn ohono.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd canwriad ac iddo was, gwerthfawr yn ei olwg, a oedd yn glaf ac ar fin marw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwas rhyw ganwriad oedd glaf, yn mron marw, yr hwn oedd werthfawr iawn ganddo.