Luke 7:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan ddaeth y gwyr ataw, y dy wed e sont, Ioan Vatyddiwr a’n d anvonas atat, gan ddywedyt, Ai ti yw’r hwn a ddelai, ai arall a dd ysgwiliwn?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod Atto, y dynion a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a’n danfonodd Attat, gan ddywedyd, “Ai Tydi yw’r Hwn sy’n dyfod, neu un arall a ddisgwyliwn?”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan ddaeth y gwŷr ato, dywedasant, “Ioan Fedyddiwr a’n hanfonodd atat gan ddywedyd, ‘Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?’ ”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw'r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ŷm yn ei ddisgwyl?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod o hyd i Iesu a dweud wrtho, “Mae Ioan Fedyddiwr eisiau gwybod, ‘Ai ti ydy'r Meseia sydd i ddod, neu ddylen ni ddisgwyl rhywun arall?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth y ddau ato a dweud, "Anfonodd Ioan Fedyddiwr ni atat, gan ofyn, 'Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?'"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r gwŷr, pan ddaethant ato, a ddywedasant, Y mae Ioan Fedyddiwr wedi ein danfon ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un arall?