Luke 7:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ar y pryd hyny yr iachaodd ef lawer ion o ei heintiae a’ phlaë ac y yvvrth yspryton drwc, ac y lawer o ddaillion y rhoddes ef y g welet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr awr honno yr iachaodd Efe lawer oddiwrth glefydau a phlaau ac ysprydion drwg; ac i ddeillion lawer y rhoddes olwg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr awr honno iachaodd lawer oddi wrth glefydau a phlâu ac ysbrydion drwg, ac i ddeillion lawer y rhoes eu golwg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r awr honno efe a iachaodd lawer oddi wrth glefydau, a phlâu, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhoddes efe eu golwg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yr adeg yna roedd Iesu wedi bod wrthi'n iacháu llawer o bobl oedd yn dioddef o afiechydon a phoenau, a dylanwad ysbrydion drwg. Roedd wedi rhoi eu golwg yn ôl i lawer o bobl ddall hefyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y pryd hwnnw iachaodd ef lawer o afael afiechydon a phlu ac ysbrydion drwg, a rhoes eu golwg i lawer o ddeillion.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yn yr awr hono efe a wellhâodd lawer o glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhad‐roddodd efe iddynt i weled.