Luke 7:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r Iesu a atepawdd, ac a ddyuot wrthynt, Ewch ymaith a’ manegwch y Ioan, pa bethae a welsoch, ac a glywsoch: sef bot y daillion yn ad gwelet, y cloffion yn rhodio, y gohangleifion yn cael ei glanhau, y byddair yn clywet, y meirw yn ad cyfodi, a’r tlodion yn d erbyn preceth yr Euangel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, dywedodd wrthynt, Wedi myned, mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn ail-weled; cloffion yn rhodio; cleifion gwahanol yn cael eu glanhau; a byddariaid yn clywed; meirw yn cael eu cyfodi: a thlodion yn cael pregethu’r efengyl iddynt;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn cael eu golwg, cloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed, meirw’n cyfodi, i dlodion y cyhoeddir newyddion da.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr efengyl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ei ateb iddyn nhw oedd, “Ewch yn ôl a dweud wrth Ioan beth dych chi wedi ei weld a'i glywed: Mae pobl ddall yn cael gweld, pobl gloff yn cerdded, pobl sy'n dioddef o'r gwahanglwyf yn cael eu hiacháu, pobl fyddar yn clywed, a phobl sydd wedi marw yn dod yn ôl yn fyw. Ac mae'r newyddion da yn cael ei gyhoeddi i bobl dlawd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac atebodd ef hwy, "Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych wedi ei weld ac wedi ei glywed. Y mae'r deillion yn cael eu golwg yn l, y cloffion yn cerdded, y gwahangleifion yn cael eu glanhau a'r byddariaid yn clywed, y meirw yn codi, y tlodion yn cael clywed y newydd da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'ch ffordd, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn gweled drachefn, a chloffion yn rhodio; rhai gwahan‐glwyfus yn cael eu glanhâu, byddariaid yn clywed, meirwon yn cyfodi, a thlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.