Luke 7:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwedy y genadae Ioan, ymadaw, ef a ddechreawdd ðywedyt wrth y dyrfa e am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r diffeith vvch y’ vv weled? Ai corsen yn yscwyt vvyt gan ’wynt?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned ymaith o genhadau Ioan, dechreuodd ddywedyd wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych arno? Ai corsen a gwynt yn ei hysgwyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi i genhadau Ioan ymadael, dechreuodd ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi i genhadau Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan. Beth yr aethoch allan i'r diffeithwch i'w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i negeswyr Ioan fynd, dechreuodd Iesu siarad â'r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i'r anialwch i'w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i neges-yddion Ioan ymadael, dechreuodd Iesu sn am Ioan wrth y tyrfaoedd. "Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond wedi i genadon Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd lefaru wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r Diffaethwch i ddal sylw arno? Corsen yn cael ei hysgwyd gan wynt?