Luke 7:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
An’d pa beth yr aethoch allan y’ vv weled? Ai gwr wedy ’r ym wisco mewn gwiscoeð esmwyth ion? nycha, yr ei ’sy yn mewn dillat trwsiadus, ac mewn moythae, yn‐tai Brenhinoedd y maent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn a gwisgoedd esmwyth am dano? Wele, y rhai y sydd mewn trwsiad gogoneddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â gwisgoedd esmwyth amdano? Wele, y rhai sy’n byw mewn dillad gwych a moethau, yn y plasau brenhinol y maent.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na? Beth roeddech chi'n ei ddisgwyl? Dyn yn gwisgo dillad crand? Wrth gwrs ddim! Mewn palasau mae pobl grand yn byw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth yr aethoch allan i'w weld? Ai rhywun wedi ei wisgo mewn dillad esmwyth? Ym mhlasau brenhinoedd y mae gweld dynion moethus mewn gwisgoedd ysblennydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad llaes‐esmwyth? Wele, y rhai sydd mewn dillad gorwych, ac yn byw yn foethus, mewn Palasdai Breninol y maent o'r dechreuad.