Luke 7:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys dywedaf wrthych, na d oes Prophwyt mwy nag Ioan, yn‐cyfrwng yr ei a genetlwyt o wrageð: eithyr yr vn lleiaf yn‐teyrnas Dew ys y vwy nag efe.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dywedaf wrthych, Un mwy ymhlith y rhai a anwyd o wragedd, nag Ioan, nid oes neb; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw, mwy nag ef yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Meddaf i chwi, ymhlith plant gwragedd nid oes neb mwy nag Ioan; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dweud wrthoch chi, mae Ioan yn fwy na neb arall sydd wedi byw erioed. Ond mae'r person lleia pwysig yn nheyrnas Dduw yn fwy nag e.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rwy'n dweud wrthych, nid oes ymhlith meibion gwragedd neb mwy na Ioan; ac eto y mae'r lleiaf yn nheyrnas Dduw yn fwy nag ef."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn dywedyd i chwi, yn mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes un mwy nag Ioan: eithr yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.