Luke 7:29 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno yr oll popul ar oedd yn clybot, a’r publicanot a gyfiawnhasont Duw, yr ei a vetyddiesit a’ betydd Ioan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r holl bobl wedi clywed, ac y treth-gymmerwyr, a gyfiawnhasant Dduw, yn cael eu bedyddio â bedydd Ioan;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(A’r holl bobl wedi ei glywed, a’r trethwyr a gydnabu gyfiawnder Duw, ac a fedyddiwyd â bedydd Ioan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd y bobl gyffredin glywodd neges Ioan, hyd yn oed y dynion sy'n casglu trethi i Rufain, yn cydnabod mai ffordd Duw oedd yn iawn — dyna pam gawson nhw eu bedyddio gan Ioan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
(A chydnabod cyfiawnder Duw a wnaeth yr holl bobl a glywodd, a'r casglwyr trethi hefyd, oherwydd yr oeddent wedi derbyn bedydd Ioan;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r holl bobl, pan glywsant, a'r Treth‐gasglwyr, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â Bedydd Ioan.