Luke 7:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Tepic ynt i blant yn eisteð yn y varchnat, ac yn llefain wrth y gylydd, ac yn dywedyt, Ys canesam ychwy bibeu, ac ny ddainsiesoch: Ys cwynvanesam y chwy, ac ny d wylesoch.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyffelyb ydynt i blant y sydd yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, y rhai a ddywedant, Canasom bibell i chwi,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cyffelyb ydynt i blantos sydd yn eistedd mewn marchnadle, ac yn galw ar ei gilydd, a dywedyd, Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch; Canasom alarnad, ac nid wylasoch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw fel plant yn eistedd yn sgwâr y farchnad yn cwyno am ei gilydd fel hyn: ‘Roedden ni'n chwarae priodas, ond wnaethoch chi ddim dawnsio; Roedden ni'n chwarae angladd, Ond wnaethoch chi ddim wylo.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y maent yn debyg i'r plant sy'n eistedd yn y farchnad ac yn galw ar ei gilydd fel hyn: 'Canasom ffliwt i chwi, ac ni ddawnsiasoch; canasom alarnad, ac nid wylasoch.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Tebyg ydynt i blant bychain yn eistedd yn y farchnad, ac yn galw ar eu gilydd, gan ddywedyd, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom, ac nid wylasoch.