Luke 7:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐daeth Ioan Vatyddiwr eb vwyta bara, nag yfet gwin: a’ chvvi ddywedwch, Y mae cythrael gnthaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac ni ddawnsiasoch: canasom alarnad, ac ni wylasoch: canys daeth Ioan Fedyddiwr, nac yn bwytta bara, nac yn yfed gwin,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb fwyta bara nac yfed gwin, ac meddwch chwi, ‘Cythraul sy ganddo.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am fod Ioan Fedyddiwr ddim yn bwyta bara ac yfed gwin, roeddech chi'n dweud, ‘Mae cythraul ynddo.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd y mae Ioan Fedyddiwr wedi dod, un nad yw'n bwyta bara nac yn yfed gwin, ac yr ydych yn dweud, 'Y mae cythraul ynddo.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys y mae Ioan wedi dyfod heb na bwyta bara nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.