Luke 7:34 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ys daeth Map y dyn, yn bwyta ac yn yfet: a’ chvvi ddywedwch, Nacha ddyn glwth, ac y fwr gwin, car ir Publicanot a’ phecaturieit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a dywedasant, Cythraul sydd ganddo: daeth Mab y Dyn yn bwytta ac yn yfed, a dywedwch, Wele, dyn glwth ac yfwr gwin, cyfaill treth-gymmerwyr a phechaduriaid:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddwch chwi, ‘Dyma ddyn glwth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma fi, Mab y Dyn yn dod, yn bwyta ac yn yfed fel pawb arall, a dyma chi'n dweud, ‘y bolgi! Meddwyn yn diota a stwffio'i hun! Ffrind i'r twyllwyr sy'n casglu trethi i Rufain ac i bechaduriaid ydy e!’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae Mab y Dyn wedi dod, un sy'n bwyta ac yn yfed, ac yr ydych yn dweud, 'Dyma feddwyn glwth, cyfaill i gasglwyr trethi a phechaduriaid.'
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Y mae Mab y Dyn wedi dyfod, yn bwyta ac yn yfed; a chwi a ddywedwch, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a Phechaduriaid!