Luke 7:37 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ nycha ’wreic yn y dinas yr hon a vesei pechatures, pan wybu hi vot yr Iesu yn eistedd wrth y bwrdd yn‐tuy ’r Pharisai at, hi a dduc vlwch o irait.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wele, gwraig a oedd yn y ddinas, pechadures, ac yn gwybod Ei fod yn lled-orwedd yn nhŷ’r Pharishead, gan ddyfod â blwch alabastr o ennaint,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wele, yr oedd gwraig yn y ddinas a honno’n bechadures; ac wedi deall ohoni ei fod ef wrth y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, hi ddug flwch alabaster o ennaint;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ'r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma wraig o'r dref oedd yn adnabyddus am ei bywyd anfoesol yn clywed fod Iesu yn cael pryd o fwyd yng nghartre'r Pharisead, ac aeth yno gyda blwch hardd yn llawn o bersawr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dyma wraig o'r dref oedd yn bechadures yn dod i wybod ei fod wrth bryd bwyd yn nhu375?'r Pharisead. Daeth ffiol alabastr o ennaint,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wele yr oedd gwraig, yr hon oedd yn y Ddinas, Pechadures: a phan wybu hi yn sicr fod yr Iesu yn eistedd i fwyta yn nhŷ y Pharisead, hi a ddygodd lestr alabastr o enaint;