Luke 7:38 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hi a eisteddawdd wrth y draet ef y tu ol yn wylaw, ac a ddechreawdd ’olchy y draet ef a da i gre, ac a’ gwallt hi phen y sychawdd, ac a gysanawdd y draet ef, ac ei h irawdd a’r ired.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chan sefyll o’r tu ol, wrth Ei draed Ef, a than wylo, ddechreuodd wlychu Ei draed â’i dagrau, ac â gwallt ei phen y sychodd hwynt; a chusanodd Ei draed, ac enneiniodd hwynt â’r ennaint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a chan sefyll tu cefn iddo wrth ei draed ac wylo, hi ddechreuodd wlychu ei draed ef â’i dagrau, a’u sychu â gwallt ei phen; a chusanai ei draed ac irai hwynt â’r ennaint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Plygodd y tu ôl iddo wrth ei draed, yn crïo. Roedd ei dagrau yn gwlychu ei draed, felly sychodd nhw â'i gwallt a'u cusanu ac yna tywallt y persawr arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a sefyll y tu l iddo wrth ei draed gan wylo. Yna dechreuodd wlychu ei draed 'i dagrau a'u sychu gwallt ei phen; ac yr oedd yn cusanu ei draed ac yn eu hiro 'r ennaint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a chan sefyll o'r tu ol, wrth ei draed ef, yn wylo, hi a ddechreuodd wlychu ei draed ef â dagrau, ac a' u sychodd â gwallt ei phen: ac a gusanodd ei draed ef drachefn a thrachefn, ac a'u heneiniodd â'r enaint.