Luke 7:39 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan y gwelawð y Pharisai at, yr hwn y gohaddesei ef, eb yr ef wrthaw y hun, gan ddywedyt, Pe ’s bysei hwn yn Prophwyt, ys gwybysei ef pwy ’n, a’ pha ryw ’wreic yw hon ysy yn y gywrdd ef: can ys‐pechatures yw hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled o’r Pharishead, yr hwn a wahoddasai Ef, llefarodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Hwn, pe bai yn brophwyd, a wybuasai pwy, ac o ba fath y mae y wraig y sydd yn cyffwrdd ag Ef, mai pechadures yw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan welodd y Pharisead a’i gwahoddasai, fe ddywedodd ynddo’i hun, “Pe bai hwn broffwyd, fe wybyddai pwy a pha fath un yw’r wraig sy’n cyffwrdd ag ef, mai pechadures yw.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn broffwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd y dyn oedd wedi gwahodd Iesu beth oedd yn digwydd, meddyliodd, “Petai'r dyn yma yn broffwyd byddai'n gwybod pa fath o wraig sy'n ei gyffwrdd — dydy hi'n ddim byd ond pechadures!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd hyn dywedodd y Pharisead oedd wedi ei wahodd wrtho'i hun, "Pe bai hwn yn broffwyd, byddai'n gwybod pwy yw'r wraig sy'n cyffwrdd ag ef, a sut un yw hi. Pechadures yw hi."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Y dyn hwn, pe fyddai Broffwyd, a wybuasai pwy a pha fath un yw y wraig sydd yn cyffwrdd âg ef, canys Pechadures yw.