Luke 7:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac wy ddaethan at yr Iesu ac adolwyn eson arno yn ddyval, gan ddywedyt, i vot ef yn deilwng y gael ganto ’wneythy’r hyn erddaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hwy, wedi dyfod at yr Iesu, a attolygasant Arno yn daer, gan ddywedyd, Haeddu y mae ganiattau o Honot hyn iddo, canys caru ein cenedl y mae;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, ymbilient arno’n daer, gan ddywedyd, “Teilwng yw ef iti i wneuthur hyn iddo;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n dod at Iesu ac yn pledio arno i helpu'r dyn. “Mae'r dyn yma yn haeddu cael dy help di.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daethant hwy at Iesu ac ymbil yn daer arno: "Y mae'n haeddu iti wneud hyn drosto,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan gyrhaeddasant at yr Iesu, hwy a atolygasant yn daer arno, gan ddywedyd, Teilwng yw efe wneuthur o honot hyn iddo: