Luke 7:40 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd atepawdd yr Iesu ac y dyuot wrthaw, Simon, mae genyf beth yw ddywedyt wrthyt. Ac ef a ddyuot, Athro, dywait tithe.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan atteb, yr Iesu a ddywedodd wrtho, Shimon, y mae Genyf ryw beth i’w ddywedyd wrthyt ti. Ac efe a ddywedodd, Athraw, dywaid.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac atebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, “Simon, mae gennyf rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” Medd yntau, “Athro, dywed.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i'w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Iesu'n dweud wrtho, “Simon, dw i eisiau dweud rhywbeth wrthot ti.” “Beth athro?” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Iesu ef, "Simon, y mae gennyf rywbeth i'w ddweud wrthyt." Meddai yntau, "Dywed, Athro."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf beth i ddywedyd wrthyt. Ac efe a ddywed, Athraw, dywed.