Luke 7:41 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr oedd (eb yr Iesu) ryw venthycwr, ac iðaw ddau ddyledwr: yn aill oedd arno pem p cant ceiniawc o dd y let, ar llall ddec a’ da’ugain.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Dau ddyledwr oedd gan ryw echwynwr; y naill oedd ag arno bum can denar o ddyled, a’r llall ddeg a deugain.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
“Dau ddyledwr oedd i ryw echwynnwr; yr oedd y naill yn ei ddyled o bum can swllt, a’r llall o bum deg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dau ddyledwr oedd i'r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd dau o bobl mewn dyled i fenthyciwr arian. Pum can denariws oedd dyled un, a hanner can denariws oedd dyled y llall.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Yr oedd gan fenthyciwr arian ddau ddyledwr," meddai Iesu. "Pum cant o ddarnau arian oedd dyled un, a hanner cant oedd ar y llall.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd dau ddyledwr i ryw echwynwr: y naill oedd ddyledus am bum can denarion, a'r llall ddeg a deugain.