Luke 7:42 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phryt nad oedd ganthynt ddim oi daly, ef vaddauawð yddynt ill ddau. Pwy ’n o hanynt can hynny, dywait i mi, y car ef yn vwyaf?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan na allent dalu, i’r ddau y maddeuodd. Pa un, gan hyny, o honynt a’i câr ef yn fwyaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan nad oedd ganddynt fodd i dalu, maddeuodd iddynt ill dau. Pa un, ynteu, ohonynt a’i câr ef fwyaf?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan oedd y naill a'r llall yn methu ei dalu'n ôl, dyma'r benthyciwr yn canslo dyled y ddau! Felly, pa un o'r ddau wyt ti'n meddwl fydd yn ei garu fwyaf?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gan nad oeddent yn gallu talu'n l, diddymodd y benthyciwr eu dyled i'r ddau. Prun ohonynt, gan hynny, fydd yn ei garu fwyaf?"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Pwy o honynt gan hyny a'i câr ef fwyaf?