Luke 7:43 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Simon a atepawdd ac a ddyuot, Tybiaf mai hwn, a vaddauawdd ef iddaw vwyaf. Ac ef a ddyuot wrthaw, Vnion y berneist.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan atteb, Shimon a ddywedodd, Tybiaf mai yr hwn i ba un y maddeuodd fwyaf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd Simon, “Mi dybiaf mai’r un y maddeuodd fwyaf iddo.” Dywedodd yntau wrtho, “Iawn y bernaist.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi'n tybied mai'r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'n debyg mai'r un gafodd y ddyled fwyaf wedi ei chanslo,” meddai Simon. “Rwyt ti'n iawn,” meddai Iesu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Simon, "Fe dybiwn i mai'r un y diddymwyd y ddyled fwyaf iddo." "Bernaist yn gywir," meddai ef wrtho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe fwyaf iddo. Ac efe a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.