Luke 7:44 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd ymchoelawdd ef at y ’wreic, ac y dyuot, wrth Simon, A weli di y wreic hon? Deuthym ith tuy, a’ dw f r im traed ny’ s roddeist: a’ hon a ’olches vy‐traed a da i grae, ac a gwallt hei phen y sychawdd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, Uniawn y bernaist; ac wedi troi at y wraig, wrth Shimon y dywedodd, A weli di y wraig hon? Daethum i mewn i’th dŷ di, a dwfr i’m traed ni roddaist i Mi; ond hon â’i dagrau a wlychodd Fy nhraed I, ac â’i gwallt y sychodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chan droi at y wraig, meddai wrth. Simon, “A weli di’r wraig hon? Deuthum i’th dŷ di, dwfr i’m traed ni roddaist imi; ond hon a wlychodd fy nhraed â’i dagrau, ac a’u sychodd â’i gwallt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di'r wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Iesu'n troi at y wraig, ac yn dweud wrth Simon, “Edrych ar y wraig yma. Pan ddes i mewn i dy dŷ di, ches i ddim dŵr i olchi fy nhraed. Ond mae hon wedi gwlychu fy nhraed â'i dagrau a'u sychu â'i gwallt.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A chan droi at y wraig, meddai wrth Simon, "A weli di'r wraig hon? Deuthum i mewn i'th du375?, ac ni roddaist ddu373?r imi at fy nhraed; ond hon, gwlychodd hi fy nhraed 'i dagrau a'u sychu 'i gwallt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a drôdd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A ddeli di sylw ar y wraig hon? Mi a ddaethum i'th dŷ di: dwfr ni roddaist i mi at fy nhraed: ond hi a wlychodd fy nhraed â'i dagrau, ac a'u sychodd â'i gwallt.