Luke 7:45 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ny roist y my gusā: a’ hi the er pan ddauthym y mywn ny pheidiawð a chusanu vy‐traet.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cusan ni roddaist i Mi; ond hon, o’r awr y daethum i mewn, ni pheidiodd a chusanu Fy nhraed I.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cusan i mi ni roddaist; ond hon o’r pryd y deuthum i mewn ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wnest ti ddim fy nghyfarch i â chusan, ond dydy hon ddim wedi stopio cusanu fy nhraed i ers i mi gyrraedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni roddaist gusan imi; ond nid yw hon wedi peidio chusanu fy nhraed byth er pan ddeuthum i mewn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon er pan y daethum i mewn, ni pheidiodd o gwbl a chusanu fy nhraed drachefn a thrachefn.