Luke 7:47 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Am hyny y dywedaf wrthyt, y maddeuwyt llawer o pechotae iddi: can ys‐carawdd hi yn vawr. Ac i bwy vn y maðeuer ychydg yn, y car ef ychydig yn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o herwydd hyn, dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei phechodau, a hwythau yn llawer, o herwydd caru o honi yn fawr. Ac i’r neb ond ychydig a faddeuir, ychydig a gâr efe.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
O achos hyn y dywedaf iti, Maddeuwyd ei haml bechodau, canys hi garodd yn fawr; ond y neb y maddeuir ychydig iddo, ychydig a gâr.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dw i'n dweud wrthot ti, mae pob un o'i phechodau hi wedi eu maddau — ac mae hi wedi dangos cariad mawr ata i. Ond bach iawn ydy cariad y sawl sydd wedi cael maddeuant am bethau bach.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny rwy'n dweud wrthyt, y mae ei phechodau, er cynifer ydynt, wedi eu maddau; oherwydd y mae ei chariad yn fawr. Os mai ychydig a faddeuwyd i rywun, ychydig yw ei gariad."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Er mwyn hyn, meddaf i ti, y mae ei haml bechodau hi wedi eu maddeu; oblegyd hi a garodd yn fawr: ond i'r hwn y mae ychydig yn cael ei faddeu, efe a gâr ychydig.