Luke 7:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth yr Iesu y gyda n wy: an’ d ac ef yn awr eb vot yn y‐pell y wrth y tuy, y Cannwriat a dd anvones geraint attavv, gan ddywedyt wrthaw, Arglwydd, na phoena: can na d wyf deilwng y ddyuot o hanot y mewn y dan vy‐cronglwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r Iesu a aeth gyda hwynt; ac Efe weithian ddim ymhell oddiwrth y tŷ, danfonodd y canwriad Atto gyfeillion, gan ddywedyd Wrtho, Arglwydd, nac ymboena, canys nid wyf deilwng i ddyfod o Honot i mewn dan fy nghronglwyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac yr oedd yr Iesu’n myned gyda hwynt; a phan oedd weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, anfonodd y canwriad gyfeillion i ddywedyd wrtho, “Arglwydd, na thraffertha; canys nid wyf gymwys i ti i ddyfod dan fy nghronglwyd;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Iesu'n mynd gyda nhw. Roedd Iesu bron â chyrraedd y tŷ pan anfonodd y swyddog Rhufeinig rai o'i ffrindiau i ddweud wrtho: “Arglwydd, paid trafferthu dod yma, dw i ddim yn deilwng i ti ddod i mewn i nhŷ i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oedd Iesu ar ei ffordd gyda hwy ac eisoes heb fod ymhell o'r tu375?, anfonodd y canwriad rai o'i gyfeillion i ddweud wrtho, "Paid thrafferthu, syr, oherwydd nid wyf yn deilwng i ti ddod dan fy nho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod yn mhell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion ato, ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, na flina dy hun: canys nid wyf fi deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd: