Luke 7:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit mi nef ’sy ddyn wedy’ r osot y dan veddiant, a ’chenyf danaf vilwyr, a’ dywedaf wrth vn, Dos, ac ef a a iff, ac wrth arall, Dyre d, ac ef a ddaw, ac wrth vy‐gwas, Gwna hyn, ac ef ei gwna.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys myfi hefyd wyf ddyn wedi ei osod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf fy hun; a dywedaf wrth hwn, Dos, a myned y mae; ac wrth arall, Tyred, a dyfod y mae; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac ei wneud y mae.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys dyn yn dal swydd dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ac meddaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae swyddogion uwch fy mhen i yn rhoi gorchmynion i mi, ac mae gen innau filwyr o danaf fi. Dw i'n dweud ‘Dos’ wrth un, ac mae'n mynd; ‘Tyrd yma’ wrth un arall ac mae'n dod. Dw i'n dweud ‘Gwna hyn’ wrth fy ngwas, ac mae'n ei wneud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd dyn sy'n cael ei osod dan awdurdod wyf finnau, a chennyf filwyr danaf; byddaf yn dweud wrth hwn, 'Dos', ac fe, ac wrth un arall, 'Tyrd', ac fe ddaw, ac wrth fy ngwas, 'Gwna hyn', ac fe'i gwna."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys dyn wyf finau hefyd yn cael fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae yn ei wneuthur.