Luke 7:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Pan glypu ’r Iesu y pethe hyn, rhyveðu a oruc wrthaw, a’ throi, a’ dywcdyt wrth y popul, oedd yn ei ganlyn, Dywedaf ychwi, na chefais gymeint ffydd, na ddo yn yr Israel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi clywed y pethau hyn, yr Iesu a ryfeddodd wrtho; ac wedi troi o Hono, wrth y dyrfa oedd yn Ei ganlyn y dywedodd, Dywedaf wrthych, hyd yn oed yn yr Israel, cymmaint ffydd ni chefais.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan glywodd yr Iesu hyn, rhyfeddodd ato; a chan droi at y dyrfa a’i canlynai, dywedodd, “Meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ni chefais gymaint ffydd.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan glybu'r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Iesu wedi ei syfrdanu pan glywodd hyn. Trodd at y dyrfa oedd yn ei ddilyn, ac meddai, “Dw i'n dweud wrthoch chi, dw i ddim wedi gweld neb o bobl Israel sydd â ffydd fel yna!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd Iesu hyn fe ryfeddodd at y dyn, a chan droi at y dyrfa oedd yn ei ddilyn meddai, "Rwy'n dweud wrthych, ni chefais hyd yn oed yn Israel ffydd mor fawr."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn ef, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo, yn yr Israel.