Luke 8:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC e ddarvu yn ol hyny, ys ef e aeth trwy bop dinas a’ thref, can precethy ac evāgely teyrnas Duw, a’r dauddec oedd y gyd ac ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu wedi hyny, ac Efe a ymdeithiodd trwy ddinas a phentref yn pregethu ac efengylu teyrnas Dduw,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Digwyddodd yn union wedyn ei fod ef yn teithio trwy ddinas a phentref, gan bregethu a chyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw, a’r deuddeg gydag ef,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu wedi hynny, iddo fyned trwy bob dinas a thref, gan bregethu, ac efengylu teyrnas Dduw: a'r deuddeg oedd gydag ef;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am beth amser wedyn roedd Iesu'n teithio o gwmpas y trefi a'r pentrefi yn cyhoeddi'r newyddion da am Dduw yn teyrnasu. Roedd y deuddeg disgybl gydag e,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi hynny bu ef yn teithio trwy dref a phentref gan bregethu a chyhoeddi'r newydd da am deyrnas Dduw. Yr oedd y Deuddeg gydag ef,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu yn fuan ar ol hyn, efe ei hun hefyd a ymdeithiodd drwy bob dinas a phentref, gan bregethu a mynegi newyddion da Teyrnas Dduw, a'r Deuddeg gyd âg ef;