Luke 8:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a ddyvot, I chvvy‐ chwi y rhoddet gwybot dirgeloedd teyrnas D d uw, anid i eraill trwy parabolae, er yddyn yn gwelet, na welant, ac er yddynt yn clywet, na ddyallant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; ond i’r lleill ar ddamhegion,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas Dduw, ond i’r lleill ar ddamhegion, fel er gweled na welont ac er clywed na ddeallont.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Atebodd Iesu, “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad Duw, ond i eraill dw i ddim ond yn adrodd straeon, felly, ‘Er eu bod yn edrych, chân nhw ddim gweld; er eu bod yn gwrando, chân nhw ddim deall.’
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai ef, "I chwi y mae gwybod cyfrinachau teyrnas Dduw wedi ei roi, ond i bawb arall y maent ar ddamhegion, fel 'er edrych, na welant, ac er clywed, na ddeallant'.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd, I chwi y mae gwybod dirgelion Teyrnas Dduw wedi ei roddi, eithr i'r gweddill mewn dammegion; fel Yn gweled na welant, Ac yn clywed na ddeallant.