Luke 8:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei ar emyl ffordd, ynt yr ei a glywant: yno y daw diavol, ac a ddwc y gair allan oei calonae rac yddyn gredy, a’ bot yn gatwedic.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A hon yw’r ddammeg: Yr had yw Gair Duw; a’r rhai ar ymyl y ffordd yw y rhai a glywsant; gwedi’n dyfod y mae diafol, ac yn dwyn ymaith y Gair o’u calon, rhag, wedi credu o honynt, iddynt fod yn gadwedig.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y rhai ar fin y ffordd yw’r rhai a glywodd; yna daw’r diafol a dwyn ymaith y gair o’u calon, rhag iddynt gredu a chael eu cadw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw'r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y mae'r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai ar y llwybr ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae'r diafol yn dod ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw, i'w rhwystro nhw rhag credu a chael eu hachub.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y rhai ar hyd y llwybr yw'r sawl sy'n clywed, ac yna daw'r diafol a chipio'r gair o'u calonnau, rhag iddynt gredu a chael eu hachub.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai ar hyd y ffordd ydyw y rhai a wrandawsant; yna y mae y Diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y Gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig.