Luke 8:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ei ar y garec, yyn yr ei pan glywant, a ddebyniant y gair trwy lawenydd: eithyr ir ei hyn nyd oes gwraidd, yr ei a credant tros amser, ac yn amser prouedigaeth a giliant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r rhai ar y graig yw y rhai pan glywont, a dderbyniant y Gair gyda llawenydd; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai am amser y credant, ac yn amser profedigaeth y ciliant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y rhai ar y graig yw’r rhai pan glywant sy’n derbyn y gair gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt hwy wreiddyn; dros amser y credant hwy, ac yn amser temtasiwn gwrthgiliant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r rhai ar y graig, yw'r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y rhai ar y tir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau, ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw. Maen nhw'n credu am sbel, ond pan ddaw'r amser iddyn nhw gael eu profi maen nhw'n rhoi'r gorau iddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y rhai ar y graig yw'r sawl sydd, pan glywant, yn croesawu'r gair yn llawen. Ond gan y rhain nid oes gwreiddyn; dros dro y credant, ac mewn awr o brawf fe wrthgiliant.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r rhai ar y graig yw y rhai pan glywant ydynt yn derbyn y Gair gyd â llawenydd; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn; y rhai ydynt yn credu am dymhor, ac yn adeg profedigaeth yn cadw draw.