Luke 8:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r hwn y syrthiawð ym‐plith drain, hwy yw’r ei glywsant ac a aethant ymaith, a’ chan ’ovalon a’ golud, a’ bodd buchedd a dagwyt, ac ny dducant ffrwyth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn a syrthiodd ym mysg y drain, y rhai hyn yw’r rhai a glywsant, a chan ofalon a golud a phleserau buchedd, wrth fyned eu ffordd, y’u tagir, ac ni ddygant ffrwyth i berffeithrwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y peth a syrthiodd i’r drain, hwy yw’r rhai a glywodd, a mynd a chael eu tagu gan bryderon a golud a phleserau bywyd, ac nid aeddfedant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw'r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'r rhai syrthiodd i ganol drain ydy'r bobl sy'n clywed y neges, ond mae poeni drwy'r adeg am bethau fel cyfoeth a phleserau yn eu tagu, a dŷn nhw ddim yn aeddfedu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr hyn a syrthiodd ymhlith y drain, dyma'r sawl sy'n clywed, ond wrth iddynt fynd ar eu hynt cnt eu tagu gan ofalon a golud a phleserau bywyd, ac ni ddygant eu ffrwyth i aeddfedrwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hyn a syrthiodd i'r drain, y rhai hyn yw y rhai a glywsant, ac fel y maent yn myned yn mlaen, y maent yn cael eu tagu ynghyd gan bryderon, a golud, a phleserau y bywyd hwn, ac nid ydynt yn dwyn dim i addfedrwydd.