Luke 8:15 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ hyn a gvvympavvdd ar y tir da, ynt yr ei mewn calon syber’‐ða, a glywant y gair ac ei catwant, ac a ffrwythant trwy anmynedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r hwn ar y tir da, y rhai hyn yw’r rhai wedi iddynt a chalon fad a da glywed y Gair, a’i cadwant, ac a ddygant ffrwyth gydag amynedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y peth yn y tir da, hwy yw’r rhai, wedi clywed y gair, a’i ceidw mewn calon lân a da, a dygant ffrwyth trwy ddyfalwch.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn ar y tir da, yw'r rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando'r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond yr hadau syrthiodd i bridd da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn dal gafael i'r diwedd — pobl sydd â chalon agored ddidwyll. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond hwnnw yn y tir da, dyna'r sawl sy'n clywed y gair chalon dda rinweddol, yn dal eu gafael ynddo ac yn dwyn ffrwyth trwy ddyfalbarhad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r hyn yn y tir da yw y cyfryw, wedi gwrando y Gair, a'i cadwant yn ddyogel mewn calon rinweddol a da, ac a ddygant ffrwyth mewn dyfal‐barhâd amyneddgar.