Luke 8:16 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Nyd ennyn neb gannwyll, ac yno y gor chuddiaw hi a llestr, ac ny’ s gesyt y dan y vord, eithyr ar y canwyllbren y gosyt, val y bo ir ei a ðel y mywn, ’weled y goleuni.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Nid yw neb wedi goleu llusern yn ei gorchuddio â llestr, neu tan wely y gesyd hi, eithr ar safle’r llusern y gesyd hi, fel y bo i’r rhai sy’n dyfod i mewn weled y goleuni;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Nid yw neb, wedi golau cannwyll, yn ei chuddio â llestr neu ei dodi o dan wely, eithr ei dodi ar ganhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo'r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dydy pobl ddim yn goleuo lamp ac yna'n rhoi rhywbeth drosti neu'n ei chuddio dan y gwely. Na, mae'n cael ei gosod ar fwrdd, er mwyn i bawb sy'n dod i mewn allu gweld.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ni bydd neb yn cynnau cannwyll ac yn ei chuddio llestr neu'n ei dodi dan y gwely. Nage, ar ganhwyllbren y dodir hi, er mwyn i'r rhai sy'n dod i mewn weld ei goleuni.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid yw neb, wedi goleu llusern, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei gosod dan wely, ond yn ei gosod ar ddaliadyr, fel y gwelo y rhai sydd yn dyfod i mewn y goleuni.