Luke 8:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Gwelwch can hyny pa‐ddelw y clywoch: can ys pwy bynac ys y ganthaw, iddo y rhoddir: a’ phwy pynac ny d oes ganthaw, ys yr hyn a dybir vot canthaw, a dducir y arnaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Edrychwch, gan hyny, pa fodd y clywch; canys pwy bynnag sydd a chanddo, rhoddir iddo; a phwy bynnag nad oes ganddo, ïe, yr hyn y tybia ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Edrychwch, ynteu, pa fodd y gwrandewch; canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo, a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn a dybia ei fod ganddo a ddygir oddi arno.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwy bynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a'r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae'n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwrandwch yn ofalus. Bydd y rhai sydd wedi deall yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall, bydd hyd yn oed yr hyn maen nhw'n meddwl maen nhw'n ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ystyriwch gan hynny sut yr ydych yn gwrando, oherwydd i'r sawl y mae ganddo y rhoir, ac oddi ar y sawl nad oes ganddo y cymerir hyd yn oed hynny y mae ef yn tybio ei fod ganddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Edrychwch gan hyny pa fodd yr ydych yn gwrando: canys pwy bynag y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, hyd y nod yr hyn a dybia fod ganddo a gymmerir oddiwrtho.