Luke 8:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y daeth ataw y vam a’ ei vroder, ac ny allent ddyuot yn agos ataw gan y dorf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth Atto Ei fam a’i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd Atto o achos y dyrfa.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Daeth ei fam a’i frodyr ato, ac ni fedrent ddyfod i’w ymyl oblegid y dyrfa.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Daeth ato hefyd ei fam a'i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna cyrhaeddodd mam Iesu a'i frodyr yno, ond roedden nhw'n methu mynd yn agos ato o achos y dyrfa.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ei fam a'i frodyr i edrych amdano, ond ni allent gyrraedd ato o achos y dyrfa.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth ato ei Fam a'i Frodyr: ac nis gallent ddyfod hyd ato o achos y dyrfa.