Luke 8:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gwragedd rei, a’r a iachaisit o y vvrth ysprytion drwc, a’ gwanderoedd, vegis Mair hon elwit Magdalen, o ba vn yr aethai saith cythrael allā,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac y deuddeg ynghydag Ef, a gwragedd rai, y rhai a iachasid oddiwrth ysprydion drwg a chlefydau; Mair yr hon a elwid Magdalen, o’r hon y bu i saith gythraul fyned allan;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a rhai gwragedd a gawsai feddyginiaeth oddi wrth ysbrydion drwg a gwendidau, Mair a elwid Magdalen, yr aethai saith gythraul allan ohoni,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A gwragedd rai, a'r a iachesid oddi wrth ysbrydion drwg a gwendid; Mair yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr aethai saith gythraul allan;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
a hefyd rhyw wragedd oedd wedi cael eu hiacháu o effeithiau ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair, oedd yn cael ei galw'n Magdalen — roedd saith o gythreuliaid wedi dod allan ohoni hi;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ynghyd rhai gwragedd oedd wedi eu hiachu oddi wrth ysbrydion drwg ac afiechydon: Mair a elwid Magdalen, yr un yr oedd saith gythraul wedi dod allan ohoni;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a rhai gwragedd oedd wedi eu hiachâu oddiwrth ysprydion drwg a gwendidau: Mair, yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr oedd saith cythraul wedi myned allan,