Luke 8:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef a atepawdd, ac a ddyuot wrthynt, Y mam i, a’m broder, yw yr ei hyn a glywant ’air Duw, ac ei gweithredant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Efe, gan atteb, a ddywedodd wrthynt, Fy mam ac Fy mrodyr yw y rhai hyn, sef y rhai y sy’n clywed Gair Duw ac yn ei wneuthur.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Atebodd yntau iddynt, “Fy mam a’m brodyr i yw’r rhain, sy’n clywed gair Duw ac yn ei wneuthur.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a'm brodyr i yw'r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond atebodd Iesu, “Fy mam a'm brodyr i ydy'r bobl sy'n clywed neges Duw ac yn gwneud beth mae'n ei ddweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau hwy, "Fy mam a'm brodyr i yw'r rhain sy'n gwrando ar air Duw ac yn ei weithredu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy Mam a'm Brodyr i yw y rhai sydd yn gwrando ac yn gwneuthur Gair Duw.