Luke 8:22 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ys darvu ar ryw ddiernot, ys ef y ddaeth i long y gyd ai ddiscipulon, ac y dyuot wrthynt, Awn ir tu hwnt ir mer llyn. A’ mordwyaw rhacddyn a wnaethant.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A bu ar un o’r dyddiau hyny, ac Efe a aeth i mewn i gwch, ac Ei ddisgyblion hefyd; a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn; a chychwynasant.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fe aeth ryw ddiwrnod i long, ef a’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw i’r llyn.” A chychwynasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llyn. A hwy a gychwynasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un diwrnod dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Beth am i ni groesi i ochr draw'r llyn?” Felly i ffwrdd â nhw mewn cwch.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Un diwrnod, aeth ef i mewn i gwch, a'i ddisgyblion hefyd, ac meddai wrthynt, "Awn drosodd i ochr draw'r llyn," a hwyliasant ymaith.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A bu ar un o'r dyddiau, efe ei hun a aeth i mewn i gwch, a'i Ddysgyblion: ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu arall i'r Llyn; a hwy a gychwynasant.