Luke 8:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac val ydd oeddent yn hwyliaw, yr hunawdd ef, ac a ddescenawdd cavod o wynt ar y mer llyn, ac y cyflawnwyt vvy o ddvvfr, ac ei periglwyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac a hwynt yn hwylio, hunodd Efe; a disgynodd cawod o wynt ar y llyn, ac yr oeddynt yn llenwi o ddwfr, ac mewn enbydrwydd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Fel yr oeddent yn hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd rhuthr o wynt ar y llyn, ac yr oeddent yn llenwi ac mewn perygl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth groesi'r llyn syrthiodd Iesu i gysgu. Daeth storm ofnadwy ar y llyn ac roedd y cwch yn llenwi â dŵr nes eu bod nhw mewn peryg o suddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oeddent ar y du373?r, aeth Iesu i gysgu. A disgynnodd tymestl o wynt ar y llyn; yr oedd y cwch yn llenwi, a hwythau mewn perygl.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a thymestl o wynt a ddisgynodd i'r Llyn, ac yr oeddynt yn llanw gan ddwfr, ac mewn perygl.