Luke 8:24 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aethant ataw, ac ei diffroesant, gan ddywedyt, Y llywiawdr, y llywiadr, e a’n collet ni. Ac ef a gyfodes, ac a geryddawdd y gwynt a ’thonnae ’r dw f r: a’ vvy peidiesont, a’ hi aeth yn arafhin.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi dyfod Atto, deffroisant Ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, ar ddarfod yr ydym. Ac Efe wedi deffro a ddwrdiodd y gwynt a’r tonnau dwfr;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant ato a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Meistr, Meistr, yr ydym ar ddarfod amdanom.” Deffrôdd yntau, a cheryddodd y gwynt ac ymchwydd y dŵr, a pheidiasant, a bu gosteg.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant ato, ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r disgyblion yn mynd at Iesu a'i ddeffro, ac yn dweud wrtho, “Feistr! dŷn ni'n suddo feistr!” Cododd Iesu ar ei draed a cheryddu'r gwynt a'r tonnau gwyllt; a dyma'r storm yn stopio, ac roedd pobman yn hollol dawel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aethant ato a'i ddeffro, a dweud, "Meistr, meistr, mae hi ar ben arnom!" Deffrdd ef, a cheryddodd y gwynt a'r dyfroedd tymhestlog; darfu'r dymestl a bu tawelwch.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a aethant ato, ac a'i deffroisant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu am danom. Ac efe, wedi ei lwyr‐ddeffroi, a geryddodd y gwynt a chynddeiriogrwydd y dwfr: a hwy a beidiasant, a bu tawelwch.