Luke 8:25 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y dyuot ef wrthynt, P’le may eich ffydd chvvi? ac ofny a’ rhyueddy, a’ orugant yn ei cyfrwng, gan ddywedyt, Pwyn ’n yw hwn a ’orchymyu ac ir gwyntoedd a’r dw f r, a’ hwy yn vvyddhau yddo?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a pheidiasant, a bu tawelwch: a dywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd? Ac wedi eu dychrynu rhyfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy, ynte, yw Hwn, gan mai i’r gwyntoedd y gorchymyn, ac i’r dwfr; ac ufuddhant Iddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Dywedodd yntau wrthynt, “Pa le mae eich ffydd chwi?” Ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “Pwy, tybed, yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed i’r gwyntoedd a’r dŵr, a hwythau’n ufuddhau iddo?”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ble mae'ch ffydd chi?” gofynnodd i'w ddisgyblion. Roedden nhw wedi dychryn ac yn rhyfeddu at beth ddigwyddodd. “Pwy ydy hwn?” medden nhw, “Mae hyd yn oed yn rhoi gorchymyn i'r gwynt a'r dŵr, ac maen nhw'n ufuddhau iddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna meddai ef wrthynt, "Ble mae eich ffydd?" Daeth ofn a syndod arnynt, ac meddent wrth ei gilydd, "Pwy ynteu yw hwn? Y mae'n gorchymyn hyd yn oed y gwyntoedd a'r dyfroedd, a hwythau'n ufuddhau iddo."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy a ofnasant ac a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy ynte yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwynt ac i'r dwfr, ac y maent yn ufuddhâu iddo.