Luke 8:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A gwedy iddaw vyn e d i dir, y cyfarvu ac ef ryw wr o’r dinas, yr hwn oedd perchen cythrael er ys hir amser, ac ny wiscai ddillat, ac ny aro s ei yn tuy, any d yn y monwenti.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi dyfod allan o Hono i dir, cyfarfu ag Ef ryw ŵr o’r ddinas, a chanddo gythreuliaid: ac am amser maith ni wisgai gochl; ac mewn tŷ nid arhosai, eithr yn y beddau.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi iddo lanio, fe gyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, a chythreuliaid ynddo; ac ni wisgasai ddillad er ys talm, ac ni thrigai mewn tŷ, ond ymhlith y beddau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr o'r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth i Iesu gamu allan o'r cwch i'r lan dyma ddyn o'r dref oedd yng ngafael cythreuliaid yn dod i'w gyfarfod. Doedd y dyn yma ddim wedi gwisgo dillad na byw mewn tŷ ers amser maith — roedd wedi bod yn byw yng nghanol y beddau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan laniodd ef, daeth i'w gyfarfod ddyn o'r dref chythreuliaid ynddo. Ers amser maith nid oedd wedi gwisgo dilledyn, ac nid mewn tu375? yr oedd yn byw ond ymhlith y beddau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac wedi iddo ddyfod allan ar y tir, rhyw wr o'r Ddinas a gyfarfu âg ef, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, ac am hir amser ni wisgai ei wisg am dano, ac nid arosai mewn tŷ, ond yn y beddau.