Luke 8:28 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan welas ef yr Iesu, y dolefawdd, ac a gwympawdd y lawr ger y vron ef, ac a llef vchel a ddyuot, Beth ’sy i mi avvnelvvyf a thi, Iesu vap Duw, y goruchaf? Atolwg yti na’m poenych.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chan weled yr Iesu, gan waeddi, syrthiodd ger Ei fron Ef, ac â llef fawr y dywedodd, Pa beth sydd i mi a wnelwyf â Thi, O Iesu, fab y Duw Goruchaf?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pan welodd ef yr Iesu, gwaeddodd a syrthiodd ger ei fron, ac â llef uchel dywedodd, “Beth sy rhyngof i a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Erfyniai arnat, na ddirboena fi.”
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu, Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na'm poenech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Iesu, rhoddodd y dyn sgrech a syrthio i lawr o'i flaen tan weiddi nerth ei ben, “Gad di lonydd i mi, Iesu, mab y Duw Goruchaf! Dw i'n crefu arnat ti, paid poenydio fi!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd ef Iesu, rhoes floedd a syrthio o'i flaen, gan weiddi llais uchel, "Beth sydd a fynni di mi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn erfyn arnat, paid 'm poenydio."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan welodd efe yr Iesu, efe a lefodd allan, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn deisyf arnat, Na phoena fi: