Luke 8:29 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys‐gorchymynesei ef ir yspryt haloc ddyuot allan o’r dyn: (can ys llawer gwaith y daliesei ef: am hyny y rhwymit ef a chadwyni, ac y cedwit mewn hualae: ac ef a ddrylliai y rhwymae, ac a ddugit gan y cythrael ir diffeithiae.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Attolygaf i Ti na’m poenech i: canys gorchymynasai Efe i’r yspryd aflan ddyfod allan o’r dyn: canys llawer o amserau y cipiasai ef; a rhwymesid ef â chadwynau a llyffetheiriau, ac mewn cadwraeth; a chan ddryllio y rhwymau, gyrrid ef gan y cythraul i’r anial-leoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys gorchymyn yr oedd i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer gwaith y meddianesid ef ganddo; a chedwid ef wedi ei rwymo â chadwynau ac â llyffetheiriau, a thorrai’r rhwymau, a gyrrid ef gan y cythraul i’r diffeithleoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Canys efe a orchmynasai i'r ysbryd aflan ddyfod allan o'r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio'r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i'r diffeithwch.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Roedd Iesu newydd orchymyn i'r ysbryd drwg ddod allan o'r dyn. Ers amser hir roedd yr ysbryd wedi meistroli'r dyn yn llwyr. Roedd rhaid iddo gael ei warchod, gyda'i ddwylo a'i draed mewn cadwyni. Ond roedd yn llwyddo i ddianc o hyd, ac roedd y cythraul yn ei yrru allan i'r anialwch.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr oedd ef wedi gorchymyn i'r ysbryd aflan fynd allan o'r dyn. Aml i dro yr oedd yr ysbryd wedi cydio ynddo, ac er ei rwymo chadwynau a llyffetheiriau a'i warchod, byddai'n dryllio'r rhwymau, a'r cythraul yn ei yrru i'r unigeddau.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys yr oedd efe yn gorchymyn i'r yspryd aflan i ddyfod allan o'r dyn: canys am yspaid amser maith yr oedd wedi ei gipio ymaith; a rhwymid ef â chadwynau ac â llyffetheiriau, gan ei gadw dan wyliadwriaeth; a chan ddryllio yn ddarnau y rhwymau, efe a yrwyd gan y cythraul i'r diffeith‐leoedd.