Luke 8:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac Ioāna gwraic Chuza goruwchwiliwr Herod, a’ Susanna, a’ llawer eraill o vvragedd yr ei oedd yn gweini iddo o i da y hunain. Yr Euangel ar y Sul Sexagesima
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac Ioanna, gwraig Cwza goruchwyliwr Herod, a Shwshanna, ac eraill lawer, y rhai a weinient Iddo o’u heiddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a Ioana, gwraig Chwsas, goruchwyliwr Herod, a Swsanna ac eraill lawer, a gweinyddai’r rhain arnynt o’r hyn a oedd ganddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Joanna, gwraig Chwsa (prif reolwr palas Herod); Swsana, a nifer o rai eraill oedd yn defnyddio eu harian i helpu i gynnal Iesu a'i ddisgyblion.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Joanna gwraig Chwsa, goruchwyliwr Herod; Swsanna, a llawer eraill; yr oedd y rhain yn gweini arnynt o'u hadnoddau eu hunain.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a Johanna, gwraig Chuzas, Gweinyddwr Herod, a Susannah, a llawer eraill, y rhai oeddynt yn gweini iddynt o'u heiddo.