Luke 8:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y govynawd yr Iesu iddaw gan ddywedyt, Beth yw d’ enw? Ac ef a ddyuot, Lle n g, can ys cythreuliait lawer aethent ynðaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gofynodd yr Iesu iddo, Pa beth yw dy enw di? Ac efe a ddywedodd, Lleng, canys cythreuliaid lawer a aethent i mewn iddo.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gofynnodd yr Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” Dywedodd yntau, “Lleng.” Canys aeth cythreuliaid lawer i mewn iddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Iesu'n gofyn iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Lleng,” atebodd, achos roedd llawer o gythreuliaid wedi mynd iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gofynnodd Iesu iddo, "Beth yw dy enw?" "Lleng," meddai yntau, oherwydd yr oedd llawer o gythreuliaid wedi mynd i mewn iddo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Pa beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.