Luke 8:32 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ydd oedd yno geir llaw gēvaint o voch lawer, yn pori ar y mynyth, a’r cythraelieit atolygesant iddaw, ar adel o hanaw yddyn vyn e d ynthynt vvy. Ac e adawodd yddynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd; a deisyfiasant Arno ganiattau iddynt fyned i mewn iddynt hwy; a chaniattaodd iddynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr oedd yno genfaint fawr o foch, yn pori ar y mynydd; ac atolygasant iddo ganiatáu iddynt fynd i mewn i’r rheini; a chaniataodd iddynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt‐hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd cenfaint fawr o foch yn pori ar ochr bryn cyfagos, a dyma'r cythreuliaid yn pledio ar Iesu i adael iddyn nhw fynd i fyw yn y moch. Felly dyma Iesu'n rhoi caniatâd iddyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd yno genfaint fawr o foch yn pori ar y mynydd. Ymbiliodd y cythreuliaid arno i ganiatu iddynt fynd i mewn i'r moch; ac fe ganiataodd iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn ymborthi ar y mynydd, a hwy a ymbiliasant âg ef adael o hono iddynt fyned i mewn i'r rhai hyny. Ac efe a adawodd iddynt.