Luke 8:33 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno ydd aeth y cythraelieit allan o’r dyn, ac yn aethon ir moch: a’r genvaint a ddy gyrchawdd y ar ddibin i’r mer llyn, ac a degit.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac wedi myned o’r cythreuliaid allan o’r dyn, aethant i mewn i’r moch; a rhuthrodd y genfaint i lawr y dibyn i’r llyn, a boddwyd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac allan yr aeth y cythreuliaid o’r dyn, ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn, a boddi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn, ac a foddwyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan aeth y cythreuliaid allan o'r dyn a mynd i mewn i'r moch, dyma'r moch i gyd yn rhuthro i lawr y llechwedd serth i mewn i'r llyn, a boddi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth y cythreuliaid allan o'r dyn ac i mewn i'r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r llyn a boddi.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd i lawr ar hyd y dibyn i'r Llyn, ac a dagwyd.