Luke 8:35 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y deuthant allan i ’wel e d beth a wnaeth es it, ac y daethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o’r hwn yr aethai allan y cythraelieit, yn eistedd, wrth draet yr Iesu, yn wiscedic, ac yn ei iavvn bwyll: ac vvy ofnent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aethant allan i weled yr hyn a ddigwyddasai; a daethant at yr Iesu, ac yn ei eistedd y cawsant y dyn o’r hwn y bu i’r cythreuliaid fyned allan, wedi ei wisgo, ac yn ei iawn bwyll, wrth draed yr Iesu; a dychrynwyd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant allan i weled y peth a ddigwyddodd, a daethant at yr Iesu, a chawsant y dyn yr aethai’r cythreuliaid allan ohono yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll wrth draed yr Iesu, ac ofnasant.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o'r hwn yr aethai'r cythreuliaid allan, yn ei ddillad, a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth pobl allan i weld drostyn nhw'u hunain. Dyma nhw'n dychryn pan ddaethon nhw at Iesu, achos dyna lle roedd y dyn roedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd yn dawel o flaen Iesu yn gwisgo dillad ac yn ei iawn bwyll.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth pobl allan i weld beth oedd wedi digwydd. Daethant at Iesu, a chael y dyn yr oedd y cythreuliaid wedi mynd allan ohono yn eistedd wrth draed Iesu, 'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daethant allan i weled yr hyn oedd wedi dygwydd. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, yn eistedd wrth draed yr Iesu, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll: a hwy a ofnasant.